DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Rheoliadau Pysgodfeydd Môr  (Y Comisiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd)  (Diwygio) (Rhif 2)2024

 

DYDDIAD

19 Mawrth 2024

GAN

Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd

 

 

Rheoliadau Pysgodfeydd Môr  (Y Comisiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd)  (Diwygio) (Rhif 2) 2024 ("Rheoliadau 2024")

 

Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno gwybod ein bod yn rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

 

Gofynnwyd am ganiatâd ar 15 Ionawr 2024 gan yr Arglwydd Douglas-Miller, y Gweinidog Bioddiogelwch, Iechyd a Lles Anifeiliaid, i wneud offeryn statudol dan y teitl Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Y Comisiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd) (Diwygio) (Rhif 2) 2024. Mae Rheoliadau 2024 yn gymwys mewn perthynas â Phrydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

 

Bydd Rheoliadau 2024 yn cael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 36(1)(a)a 36(1)(b) y adran 51(a)o Ddeddf Pysgodfeydd 2020.

 

Mae'r offeryn hwn yn gwneud diwygiadau i gyfraith ganlynol yr UE a ddargedwir:

 

Rheoliad (EU) 2016/1627 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gynllun adfer amlflwydd ar gyfer tiwna asgell las yn Nwyrain yr Iwerydd a Môr y Canoldir.

 

Rhoddwyd caniatâd gan fod y Rheoliadau hyn yn sicrhau bod y DU yn cydymffurfio â'i rhwymedigaethau o dan y Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd (y Confensiwn). Er mwyn iddynt fod yn effeithiol, ystyrir iddynt fod yn gymwys ar sail y DU ac i bob cwch sy'n gweithredu yn nyfroedd y DU neu ble bynnag y bônt. 

 

Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 14/03/2024 a byddant yn dod i rym ar  7/06/2024.